Cofnodion Grŵp Trawsbleidiol y Cynulliad ar Geffylau

Cynhaliwyd yn Ystafell Gynadledda 24, Tŷ Hywel

Ddydd Mawrth 8 Rhagfyr 2015 am 6 pm

 

 

Yn bresennol:

Angela Burns AC (Cadeirydd)

Stuart Burns (Staff cymorth Angela Burns)

Janet Finch-Saunders AC (Is-gadeirydd)

Lee Hackett (Cyfarwyddwr Polisi Ceffylau Cymdeithas Ceffylau Prydain)

Keith Meldrum (WHW)

Rachel Evans (Cyfarwyddwr Cynghrair Cefn Gwlad Cymru)

PC Richard Lewis (Heddlu De Cymru)

PC John Harrison (Heddlu De Cymru)

Alan Pearce (Cludiant Ceffylau)

Phillip York (SWHP)

Karen Morgan (Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili)

Elaine Griffiths (Cymdeithas Ceffylau Prydain – Swyddog Lles Cymru)

Jan Roche (Ysgrifenyddiaeth)

Colin Thomas (Y Gymdeithas Gwella Merlod Mynydd)

Helen Manns (British Driving Society)

Nic De Brauwere (Redwings)

 

 

                                                                                                                       

Ymddiheuriadau:

Mark Weston (Cyfarwyddwr Mynediad Cymdeithas Ceffylau Prydain)

Jenny MacGregor (SWHP)

Tony Evans (WHW)

Graham Capper (Ymgynghorydd Ceffylau)

Maureen Lloyd (STAGBI)

Huw Rhys Thomas (NFU)

Lee Jones (Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr)

J Staley (Tir Comin)

Ed Gummery (WPCS)

William Jenkins (NFU Cymru)

 

 

 

1.      Estynnodd Angela Burns groeso i bawb i'r cyfarfod. Aed drwy weithdrefn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a chynigiwyd Angela Burns fel Cadeirydd gan Alan Pearce ac eiliwyd gan Nic De Brauwere. Cynigiwyd Janet Finch-Saunders fel Is-gadeirydd gan Alan Pearce ac eiliwyd gan Angela Burns. Cynigiwyd Jan Roche fel Ysgrifennydd gan Angela Burns ac eiliwyd gan Lee Hackett.

 

2.      Nodwyd yr ymddiheuriadau a ddaeth i law.

 

3.      Nodwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol. Nid oedd unrhyw faterion yn codi.

 

4.      Y wybodaeth ddiweddaraf am ferlod ar dir comin: Cyflwynwyd Karen Morgan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gan Phillip York.  Amlinellodd y sefyllfa bresennol o ran rhaglen y brechlyn atal cenhedlu. Cafodd 250 eu brechu hyd yma ac, os yn bosibl, roedd angen brechu 250 arall cyn gynted â phosibl. Diolchodd i Colin Thomas am ei gymorth o ran cael cytundeb ar rai o’r tiroedd comin. Gwnaed cais am drwydded i fewnforio brechlyn gwell o UDA a chaniatawyd hyn.

Wedyn, rhoddodd Karen Morgan grynodeb o'r sefyllfa gyffredinol – roedd profi perchnogaeth yn broblem fawr bob amser, yn ogystal â sicrhau cyllid ar gyfer unrhyw waith clirio. Roedd angen i’r Awdurdod Lleol weithio gydag elusen a allai ail-gartrefu ceffylau. Roedd y sefyllfa yn un a oedd wedi bodoli ers blynyddoedd lawer. Roedd llawer o ddiddordeb ymhlith y cyhoedd a cheid llawer o alwadau yn rheolaidd. Efallai y bydd y brechlyn atal cenhedlu yn darparu ateb ar unwaith i atal rhagor o or-fridio. Roedd tua 300 i 500 o ferlod ar dir comin lleol yn ardal yr Awdurdod Lleol hwnnw – llawer ohonynt o bosibl heb berchnogion.

Mae rhai tiroedd comin wedi gweithio'n dda gydag Awdurdodau Lleol ac elusennau a hefyd wedi rhoi cynlluniau rheoli ar waith.

Dywedodd Colin Thomas fod un tir comin yn ardal Bannau Brycheiniog wedi cynnal lefelau rheoli ac yn llwyddo i gadw unrhyw broblemau o dan reolaeth o ganlyniad i hynny.

Roedd angen dau ddogn, dair blynedd ar wahân gyda’r brechlyn newydd. Roedd ceffylau’n dychwelyd i gylch arferol yn y rhan fwyaf o achosion, a’r cyfnod ar gyfer ei gadw o’r gadwyn fwyd, o ran lladd, yw dim. Roedd y gost rhwng tua £50 a £60 y dogn.

Soniodd Janet Finch-Saunders am y dull rheoli sydd wedi gweithio'n dda ar gyfer merlod y Carneddau.

Teimlai Angela Burns y byddai angen gweithredu ar gyfer rhan gynnar 2016 fel mesur tymor byr gyda’r argyfwng a oedd yn agosáu. Felly byddai'n ysgrifennu at Rebecca Evans, y Gweinidog, i dynnu sylw at faterion o bwys ac i awgrymu cyfarfod i drafod yn uniongyrchol gydag aelodau'r Grŵp. Byddai copi’n cael ei anfon at y Grŵp cyn gynted â phosibl.

 

  1. Gwerthuso’r cais am gyflwyniadau ynghylch materion yn ymwneud â thir comin: Roedd rhai Aelodau wedi ymateb, a bydd Angela yn defnyddio'r ymatebion hynny i baratoi dogfen a fydd yn cael ei dosbarthu i gael cyfraniadau. Soniodd Colin Thomas fod Prifysgol Aberystwyth wedi paratoi astudiaeth DNA ar y merlyn Cymreig gwirioneddol yn ddiweddar. Roedd yn mynd i'r lansiad a byddai'n adrodd yn ôl.

 

  1. Gwerth/dathlu’r ceffyl yng Nghymru: Teimlai Rachel Evans y dylid sôn am lwyddiant ceffylau yng Nghymru ochr yn ochr â’r materion dan sylw. Dywedodd Helen Manns y gellid defnyddio unrhyw ddathliad i dynnu sylw at y problemau amlwg a'r angen am gymorth ariannol i liniaru'r problemau hynny. Roedd eitemau eraill yr oedd angen i’r grŵp edrych arnynt hefyd fel yr awgrymwyd:

 

Cyfraddau Ysgolion Marchogaeth

Trwyddedu Iardiau Hurio Ceffylau

Trwyddedu Llochesi

Strategaeth Iechyd a Lles Anifeiliaid

Twristiaeth / mynediad at geffylau

 

Yna trafodwyd diwygio deddfwriaeth yn y dyfodol– gohiriwyd unrhyw gronfa ddata genedlaethol newydd ar gyfer ceffylau ar hyn o bryd.

Bu Keith Meldrum mewn nifer o gyfarfodydd ynglŷn â deddfwriaeth a chytunodd, pan ofynnwyd iddo gan Angela Burns, i roi cyflwyniad mewn cyfarfod, yn edrych ar ddeddfwriaeth yn y dyfodol – deddfwriaeth a oedd ar waith fel y cyfryw ond nid mewn grym ym mis Ionawr 2016.

Byddai un cyfarfod arall o’r Grŵp Trawsbleidiol ar Geffylau cyn y diddymiad ac etholiadau 2016. Penderfynwyd edrych ar dri ymholiad posibl yn y cyfarfod hwnnw – pasbortau/dulliau adnabod ceffylau, gwerth y diwydiant ceffylau/manteision a materion yn ymwneud â thrwyddedu mangreoedd ceffylau.

 

7.      Unrhyw fater arall: Diolchodd Karen Morgan i’r rhai o amgylch y bwrdd am eu cefnogaeth yn y gorffennol, a dywedodd y byddai'n hapus i fynychu cyfarfodydd yn y dyfodol os byddai hynny’n bosibl.

Daeth y cyfarfod i ben am 7.30pm